Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hydref 2013
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Cyllid y Gwasanaeth
Iechyd Gwladol (Cymru)
1. Ar 30 Medi 2013, cafodd Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 1 Hydref 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Cyllid ond cytunodd i hepgor ystyriaeth Cyfnod 1 gan bwyllgor.
3. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 8 Tachwedd 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.